36 A'r holl bobl a wybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a'r hyn oll a wnâi y brenin, oedd dda yng ngolwg y bobl.
37 A'r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner.
38 A'r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel?
39 A minnau ydwyf eiddil heddiw, er fy eneinio yn frenin; a'r gwŷr hyn, meibion Serfia, sydd ry galed i mi. Yr Arglwydd a dâl i'r hwn a wnaeth y drwg yn ôl ei ddrygioni.