22 Am hynny y'th fawrhawyd, O Arglwydd Dduw; canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â'n clustiau.
23 A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth Duw i'w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o'r Aifft, oddi wrth y cenhedloedd a'u duwiau?
24 Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, Arglwydd, ydwyt iddynt hwy yn Dduw.
25 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw, cwblha byth y gair a leferaist am dy was, ac am ei dŷ ef, a gwna megis y dywedaist.
26 A mawrhaer dy enw yn dragywydd; gan ddywedyd, Arglwydd y lluoedd sydd Dduw ar Israel: a bydded tŷ dy was Dafydd wedi ei sicrhau ger dy fron di.
27 Canys ti, O Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, a fynegaist i'th was, gan ddywedyd, Adeiladaf dŷ i ti: am hynny dy was a gafodd yn ei galon weddïo atat ti y weddi hon.
28 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw, tydi sydd Dduw, a'th eiriau di sydd wirionedd, a thi a leferaist am dy was y daioni hwn.