6 A phan ddaeth Meffiboseth mab Jonathan, mab Saul, at Dafydd, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymgrymodd. A Dafydd a ddywedodd, Meffiboseth. Dywedodd yntau, Wele dy was.
7 A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, Nac ofna: canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd â thi, er mwyn Jonathan dy dad, a mi a roddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dad; a thi a fwytei fara ar fy mwrdd i yn wastadol.
8 Ac efe a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Beth ydyw dy was di, pan edrychit ar gi marw o'm bath i?
9 Yna y brenin a alwodd ar Siba gwas Saul, ac a ddywedodd wrtho, Yr hyn oll oedd eiddo Saul, ac eiddo ei holl dŷ ef, a roddais i fab dy feistr di.
10 A thi a erddi y tir iddo ef, ti, a'th feibion, a'th weision, ac a'u dygi i mewn, fel y byddo bara i fab dy feistr di, ac y bwytao efe: a Meffiboseth, mab dy feistr di, a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i. Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion, ac ugain o weision.
11 Yna y dywedodd Siba wrth y brenin, Yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd fy arglwydd y brenin i'w was, felly y gwna dy was. Yna y dywedodd Dafydd, Meffiboseth a fwyty ar fy mwrdd i, fel un o feibion y brenin.
12 Ac i Meffiboseth yr oedd mab bychan, a'i enw oedd Micha. A phawb a'r a oedd yn cyfanheddu tŷ Siba oedd weision i Meffiboseth.