Amos 3 BWM

1 Gwrandewch y gair a lefarodd yr Arglwydd i'ch erbyn chwi, plant Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft, gan ddywedyd,

2 Chwi yn unig a adnabûm o holl deuluoedd y ddaear: am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau.

3 A rodia dau ynghyd, heb fod yn gytûn?

4 A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth? a leisia cenau llew o'i ffau, heb ddal dim?

5 A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaear, heb fod croglath iddo? a gyfyd un y fagl oddi ar y ddaear, heb ddal dim?

6 A genir utgorn yn y ddinas, heb ddychrynu o'r bobl? a fydd niwed yn y ddinas, heb i'r Arglwydd ei wneuthur?

7 Canys ni wna yr Arglwydd ddim, a'r nas dangoso ei gyfrinach i'w weision y proffwydi.

8 Rhuodd y llew, pwy nid ofna? yr Arglwydd Iôr a lefarodd, pwy ni phroffwyda?

9 Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod, ac yn y palasau yng ngwlad yr Aifft, a dywedwch, Deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria, a gwelwch derfysgoedd lawer o'i mewn, a'r gorthrymedigion yn ei chanol hi.

10 Canys ni fedrant wneuthur uniondeb, medd yr Arglwydd: pentyrru y maent drais ac ysbail yn eu palasau.

11 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gelyn fydd o amgylch y tir; ac efe a dynn i lawr dy nerth oddi wrthyt, a'th balasoedd a ysbeilir.

12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwy goes, neu ddarn o glust; felly yr achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwr gwely, ac yn Damascus mewn gorweddle.

13 Gwrandewch, a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob, medd yr Arglwydd Dduw, Duw y lluoedd,

14 Mai y dydd yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef, y gofwyaf hefyd allorau Bethel: a chyrn yr allor a dorrir, ac a syrthiant i'r llawr.

15 A mi a drawaf y gaeafdy a'r hafdy; a derfydd am y tai ifori, a bydd diben ar y teiau mawrion, medd yr Arglwydd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9