9 Ac efe a lefarodd hefyd wrth wŷr Penuel, gan ddywedyd, Pan ddychwelwyf mewn heddwch, mi a ddistrywiaf y tŵr yma.
10 A Seba a Salmunna oedd yn Carcor, a'u lluoedd gyda hwynt, ynghylch pymtheng mil, yr hyn oll a adawsid o holl fyddin meibion y dwyrain: canys lladdwyd cant ac ugain mil o wŷr yn tynnu cleddyf.
11 A Gedeon a aeth i fyny ar hyd ffordd y rhai oedd yn trigo mewn pebyll, o'r tu dwyrain i Noba a Jogbeha: ac efe a drawodd y fyddin: canys y fyddin oedd ysgafala.
12 A Seba a Salmunna a ffoesant: ac efe a erlidiodd ar eu hôl hwynt; ac a ddaliodd ddau frenin Midian, Seba a Salmunna, ac a darfodd yr holl lu.
13 A Gedeon mab Joas a ddychwelodd o'r rhyfel cyn codi yr haul.
14 Ac efe a ddaliodd lanc o wŷr Succoth, ac a ymofynnodd ag ef. Ac yntau a ysgrifennodd iddo dywysogion Succoth, a'r henuriaid; sef dau ŵr ar bymtheg a thrigain.
15 Ac efe a ddaeth at wŷr Succoth, ac a ddywedodd, Wele Seba a Salmunna, trwy y rhai y danodasoch i mi, gan ddywedyd, A ydyw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di, fel y rhoddem fara i'th wŷr lluddedig?