4 Teg ydwyt ti, fy anwylyd, megis Tirsa, gweddus megis Jerwsalem, ofnadwy megis llu banerog.
5 Tro dy lygaid oddi wrthyf, canys hwy a'm gorchfygasant: dy wallt sydd fel diadell o eifr y rhai a ymddangosant o Gilead.
6 Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddâi i fyny o'r olchfa, y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen, ac heb un yn ddiepil yn eu mysg.
7 Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad.
8 Y mae trigain o freninesau, ac o ordderchwragedd bedwar ugain, a llancesau heb rifedi.
9 Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a'i hesgorodd: y merched a'i gwelsant, ac a'i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a'r gordderchwragedd, a hwy a'i canmolasant hi.
10 Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog?