9 Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a'i hesgorodd: y merched a'i gwelsant, ac a'i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a'r gordderchwragedd, a hwy a'i canmolasant hi.
10 Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog?
11 Euthum i waered i'r ardd gnau, i edrych am ffrwythydd y dyffryn, i weled a flodeuasai y winwydden, a flodeuasai y pomgranadau.
12 Heb wybod i mi y'm gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib.
13 Dychwel, dychwel, y Sulamees; dychwel, dychwel, fel yr edrychom arnat. Beth a welwch chwi yn y Sulamees? Megis tyrfa dau lu.