13 Canys brenin y gogledd a ddychwel, ac a gyfyd dyrfa fwy na'r gyntaf, ac ymhen ennyd o flynyddoedd, gan ddyfod y daw â llu mawr, ac â chyfoeth mawr.
14 Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau; a'r ysbeilwyr o'th bobl a ymddyrchafant i sicrhau y weledigaeth; ond hwy a syrthiant.
15 Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennill y dinasoedd caerog, ond breichiau y deau ni wrthsafant, na'i bobl ddewisol ef; ac ni bydd nerth i sefyll.
16 A'r hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno, ac ni bydd a safo o'i flaen; ac efe a saif yn y wlad hyfryd, a thrwy ei law ef y difethir hi.
17 Ac efe a esyd ei wyneb ar fyned â chryfder ei holl deyrnas, a rhai uniawn gydag ef; fel hyn y gwna: ac efe a rydd iddo ferch gwragedd, gan ei llygru hi; ond ni saif hi ar ei du ef, ac ni bydd hi gydag ef.
18 Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd, ac a ennill lawer; ond pennaeth a bair i'w warth ef beidio, er ei fwyn ei hun, heb warth iddo ei hun: efe a'i detry arno ef.
19 Ac efe a dry ei wyneb at amddiffynfeydd ei dir ei hun: ond efe a dramgwydda, ac a syrth, ac nis ceir ef.