24 I'r dalaith heddychol a bras y daw efe, ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau, na thadau ei dadau: ysglyfaeth, ac ysbail, a golud, a daena efe yn eu mysg: ac ar gestyll y bwriada efe ei fwriadau, sef dros amser.
25 Ac efe a gyfyd ei nerth a'i galon yn erbyn brenin y deau â llu mawr: a brenin y deau a ymesyd i ryfel â llu mawr a chryf iawn; ond ni saif efe: canys bwriadant fwriadau yn ei erbyn ef.
26 Y rhai a fwytânt ran o'i fwyd ef a'i difethant ef, a'i lu ef a lifeiria; a llawer a syrth yn lladdedig.
27 A chalon y ddau frenin hyn fydd ar wneuthur drwg, ac ar un bwrdd y traethant gelwydd; ond ni thycia: canys eto y bydd y diwedd ar yr amser nodedig.
28 Ac efe a ddychwel i'w dir ei hun â chyfoeth mawr; a'i galon fydd yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel i'w wlad.
29 Ar amser nodedig y dychwel, ac y daw tua'r deau; ac ni bydd fel y daith gyntaf, neu fel yr olaf.
30 Canys llongau Chittim a ddeuant yn ei erbyn ef; am hynny yr ymofidia, ac y dychwel, ac y digia yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel; ac efe a ymgynghora â'r rhai a adawant y cyfamod sanctaidd.