29 Ar amser nodedig y dychwel, ac y daw tua'r deau; ac ni bydd fel y daith gyntaf, neu fel yr olaf.
30 Canys llongau Chittim a ddeuant yn ei erbyn ef; am hynny yr ymofidia, ac y dychwel, ac y digia yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel; ac efe a ymgynghora â'r rhai a adawant y cyfamod sanctaidd.
31 Breichiau hefyd a safant ar ei du ef, ac a halogant gysegr yr amddiffynfa, ac a ddygant ymaith y gwastadol aberth, ac a osodant yno y ffieidd‐dra anrheithiol.
32 A throseddwyr y cyfamod a lygra efe trwy weniaith: eithr y bobl a adwaenant eu Duw, a fyddant gryfion, ac a ffynnant.
33 A'r rhai synhwyrol ymysg y bobl a ddysgant lawer; eto syrthiant trwy y cleddyf, a thrwy dân, trwy gaethiwed, a thrwy ysbail, ddyddiau lawer.
34 A phan syrthiant, â chymorth bychan y cymhorthir hwynt: eithr llawer a lŷn wrthynt hwy trwy weniaith.
35 A rhai o'r deallgar a syrthiant i'w puro, ac i'w glanhau, ac i'w cannu, hyd amser y diwedd: canys y mae eto dros amser nodedig.