36 A'r brenin a wna wrth ei ewyllys ei hun, ac a ymddyrcha, ac a ymfawryga uwchlaw pob duw; ac yn erbyn Duw y duwiau y traetha efe bethau rhyfedd, ac a lwydda nes diweddu y dicter; canys yr hyn a ordeiniwyd, a fydd.
37 Nid ystyria efe Dduw ei dadau, na serch ar wragedd, ie, nid ystyria un duw: canys goruwch pawb yr ymfawryga.
38 Ac efe a anrhydedda Dduw y nerthoedd yn ei le ef: ie, duw yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda efe ag aur ac ag arian, ac â meini gwerthfawr, ac â phethau dymunol.
39 Fel hyn y gwna efe yn yr amddiffynfeydd cryfaf gyda duw dieithr, yr hwn a gydnebydd efe, ac a chwanega ei ogoniant: ac a wna iddynt lywodraethu ar lawer, ac a ranna y tir am werth.
40 Ac yn amser y diwedd yr ymgornia brenin y deau ag ef, a brenin y gogledd a ddaw fel corwynt yn ei erbyn ef, â cherbydau, ac â marchogion, ac â llongau lawer; ac efe a ddaw i'r tiroedd, ac a lifa, ac a â trosodd.
41 Ac efe a ddaw i'r hyfryd wlad, a llawer o wledydd a syrthiant: ond y rhai hyn a ddihangant o'i law ef, Edom, a Moab, a phennaf meibion Ammon.
42 Ac efe a estyn ei law ar y gwledydd; a gwlad yr Aifft ni bydd dihangol.