41 Ac efe a ddaw i'r hyfryd wlad, a llawer o wledydd a syrthiant: ond y rhai hyn a ddihangant o'i law ef, Edom, a Moab, a phennaf meibion Ammon.
42 Ac efe a estyn ei law ar y gwledydd; a gwlad yr Aifft ni bydd dihangol.
43 Eithr efe a lywodraetha ar drysorau aur ac arian, ac ar holl annwyl bethau yr Aifft: y Libyaid hefyd a'r Ethiopiaid fyddant ar ei ôl ef.
44 Eithr chwedlau o'r dwyrain ac o'r gogledd a'i trallodant ef: ac efe a â allan mewn llid mawr i ddifetha, ac i ddifrodi llawer.
45 Ac efe a esyd bebyll ei lys rhwng y moroedd, ar yr hyfryd fynydd sanctaidd: eto efe a ddaw hyd ei derfyn, ac ni bydd cynorthwywr iddo.