6 Ac yn niwedd blynyddoedd yr ymgysylltant; canys merch brenin y deau a ddaw at frenin y gogledd i wneuthur cymod; ond ni cheidw hi nerth y braich; ac ni saif yntau, na'i fraich: eithr rhoddir hi i fyny, a'r rhai a'i dygasant hi, a'r hwn a'i cenhedlodd hi, a'i chymhorthwr, yn yr amseroedd hyn.
7 Eithr yn ei le ef y saif un allan o flaguryn ei gwraidd hi, yr hwn a ddaw â llu, ac a â i amddiffynfa brenin y gogledd, ac a wna yn eu herbyn hwy, ac a orchfyga;
8 Ac a ddwg hefyd i gaethiwed i'r Aifft, eu duwiau hwynt, a'u tywysogion, a'u dodrefn annwyl o arian ac aur; ac efe a bery fwy o flynyddoedd na brenin y gogledd.
9 A brenin y deau a ddaw i'w deyrnas, ac a ddychwel i'w dir ei hun.
10 A'i feibion a gyffroir, ac a gasglant dyrfa o luoedd mawrion: a chan ddyfod y daw un, ac a lifeiria, ac a â trosodd: yna efe a ddychwel, ac a gyffroir hyd ei amddiffynfa ef.
11 Yna y cyffry brenin y deau, ac yr â allan, ac a ymladd ag ef, sef â brenin y gogledd: ac efe a gyfyd dyrfa fawr; ond y dyrfa a roddir i'w law ef.
12 Pan gymerer ymaith y dyrfa, yr ymddyrchafa ei galon, ac efe a gwympa fyrddiwn; er hynny ni bydd efe gryf.