8 Ac a ddwg hefyd i gaethiwed i'r Aifft, eu duwiau hwynt, a'u tywysogion, a'u dodrefn annwyl o arian ac aur; ac efe a bery fwy o flynyddoedd na brenin y gogledd.
9 A brenin y deau a ddaw i'w deyrnas, ac a ddychwel i'w dir ei hun.
10 A'i feibion a gyffroir, ac a gasglant dyrfa o luoedd mawrion: a chan ddyfod y daw un, ac a lifeiria, ac a â trosodd: yna efe a ddychwel, ac a gyffroir hyd ei amddiffynfa ef.
11 Yna y cyffry brenin y deau, ac yr â allan, ac a ymladd ag ef, sef â brenin y gogledd: ac efe a gyfyd dyrfa fawr; ond y dyrfa a roddir i'w law ef.
12 Pan gymerer ymaith y dyrfa, yr ymddyrchafa ei galon, ac efe a gwympa fyrddiwn; er hynny ni bydd efe gryf.
13 Canys brenin y gogledd a ddychwel, ac a gyfyd dyrfa fwy na'r gyntaf, ac ymhen ennyd o flynyddoedd, gan ddyfod y daw â llu mawr, ac â chyfoeth mawr.
14 Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau; a'r ysbeilwyr o'th bobl a ymddyrchafant i sicrhau y weledigaeth; ond hwy a syrthiant.