1 Nebuchodonosor frenin at yr holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd, y rhai a drigant yn yr holl ddaear; Aml fyddo heddwch i chwi.
2 Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion a'r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf Dduw â mi.
3 Mor fawr yw ei arwyddion ef! ac mor gedyrn yw ei ryfeddodau! ei deyrnas ef sydd deyrnas dragwyddol, a'i lywodraeth ef sydd o genhedlaeth i genhedlaeth.
4 Myfi Nebuchodonosor oeddwn esmwyth arnaf yn fy nhŷ, ac yn hoyw yn fy llys.
5 Gwelais freuddwyd yr hwn a'm hofnodd; meddyliau hefyd yn fy ngwely, a gweledigaethau fy mhen, a'm dychrynasant.