16 Newidier ei galon ef o fod yn galon dyn, a rhodder iddo galon bwystfil: a chyfnewidier saith amser arno.
17 O ordinhad y gwyliedyddion y mae y peth hyn, a'r dymuniad wrth ymadrodd y rhai sanctaidd; fel y gwypo y rhai byw mai y Goruchaf a lywodraetha ym mrenhiniaeth dynion, ac a'i rhydd i'r neb y mynno efe, ac a esyd arni y gwaelaf o ddynion.
18 Dyma y breuddwyd a welais i Nebuchodonosor y brenin. Tithau, Beltesassar, dywed ei ddehongliad ef, oherwydd nas gall holl ddoethion fy nheyrnas hysbysu y dehongliad i mi: eithr ti a elli; am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.
19 Yna Daniel, yr hwn ydoedd ei enw Beltesassar, a synnodd dros un awr, a'i feddyliau a'i dychrynasant ef. Atebodd y brenin, a dywedodd, Beltesassar, na ddychryned y breuddwyd di, na'i ddehongliad. Atebodd Beltesassar, a dywedodd, Fy arglwydd, deued y breuddwyd i'th gaseion, a'i ddehongliad i'th elynion.
20 Y pren a welaist, yr hwn a dyfasai, ac a gryfhasai, ac a gyraeddasai ei uchder hyd y nefoedd, ac oedd i'w weled ar hyd yr holl ddaear;
21 A'i ddail yn deg, a'i ffrwyth yn aml, ac ymborth i bob peth ynddo; tan yr hwn y trigai bwystfilod y maes, ac y preswyliai adar y nefoedd yn ei ganghennau:
22 Ti, frenin, yw efe; tydi a dyfaist, ac a gryfheaist: canys dy fawredd a gynyddodd, ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd, a'th lywodraeth hyd eithaf y ddaear.