28 Daeth hyn oll ar Nebuchodonosor y brenin.
29 Ymhen deuddeng mis yr oedd efe yn rhodio yn llys brenhiniaeth Babilon.
30 Llefarodd y brenin, a dywedodd, Onid hon yw Babilon fawr, yr hon a adeiledais i yn frenhindy yng nghryfder fy nerth, ac er gogoniant fy mawrhydi?
31 A'r gair eto yng ngenau y brenin, syrthiodd llef o'r nefoedd, yn dywedyd, Wrthyt ti, frenin Nebuchodonosor, y dywedir, Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt.
32 A thi a yrrir oddi wrth ddynion, a'th drigfa fydd gyda bwystfilod y maes; â gwellt y'th borthant fel eidionau; a chyfnewidir saith amser arnat; hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i'r neb y mynno.
33 Yr awr honno y cyflawnwyd y gair ar Nebuchodonosor, ac y gyrrwyd ef oddi wrth ddynion, ac y porodd wellt fel eidionau, ac y gwlychwyd ei gorff ef gan wlith y nefoedd, hyd oni thyfodd ei flew ef fel plu eryrod, a'i ewinedd fel ewinedd adar.
34 Ac yn niwedd y dyddiau, myfi Nebuchodonosor a ddyrchefais fy llygaid tua'r nefoedd, a'm gwybodaeth a ddychwelodd ataf, a bendithiais y Goruchaf, a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth, am fod ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragwyddol, a'i frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.