5 Gwelais freuddwyd yr hwn a'm hofnodd; meddyliau hefyd yn fy ngwely, a gweledigaethau fy mhen, a'm dychrynasant.
6 Am hynny y gosodwyd gorchymyn gennyf fi, ar ddwyn ger fy mron holl ddoethion Babilon, fel yr hysbysent i mi ddehongliad y breuddwyd.
7 Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, a'r brudwyr, a ddaethant: a mi a ddywedais y breuddwyd o'u blaen hwynt; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi.
8 Ond o'r diwedd daeth Daniel o'm blaen i, (yr hwn yw ei enw Beltesassar, yn ôl enw fy nuw i, yr hwn hefyd y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo,) a'm breuddwyd a draethais o'i flaen ef, gan ddywedyd,
9 Beltesassar, pennaeth y dewiniaid, oherwydd i mi wybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, ac nad oes un dirgelwch yn anodd i ti, dywed weledigaethau fy mreuddwyd yr hwn a welais, a'i ddehongliad.
10 A dyma weledigaethau fy mhen ar fy ngwely; Edrych yr oeddwn, ac wele bren yng nghanol y ddaear, a'i uchder yn fawr.
11 Mawr oedd y pren a chadarn, a'i uchder a gyrhaeddai hyd y nefoedd; yr ydoedd hefyd i'w weled hyd yn eithaf yr holl ddaear.