15 Myfi Daniel a ymofidiais yn fy ysbryd yng nghanol fy nghorff, a gweledigaethau fy mhen a'm dychrynasant.
16 Neseais at un o'r rhai a safent gerllaw, a cheisiais ganddo y gwirionedd am hyn oll. Ac efe a ddywedodd i mi, ac a wnaeth i mi wybod dehongliad y pethau.
17 Y bwystfilod mawrion hyn, y rhai sydd bedwar, ydynt bedwar brenin, y rhai a gyfodant o'r ddaear.
18 Eithr saint y Goruchaf a dderbyniant y frenhiniaeth, ac a feddiannant y frenhiniaeth hyd byth, a hyd byth bythoedd.
19 Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn ofnadwy iawn, a'i ddannedd o haearn, a'i ewinedd o bres; yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill â'i draed:
20 Ac am y deg corn oedd ar ei ben ef, a'r llall yr hwn a gyfodasai, ac y syrthiasai tri o'i flaen; sef y corn yr oedd llygaid iddo, a genau yn traethu mawrhydri, a'r olwg arno oedd yn arwach na'i gyfeillion.
21 Edrychais, a'r corn hwn a wnaeth ryfel ar y saint, ac a fu drech na hwynt;