20 Ac am y deg corn oedd ar ei ben ef, a'r llall yr hwn a gyfodasai, ac y syrthiasai tri o'i flaen; sef y corn yr oedd llygaid iddo, a genau yn traethu mawrhydri, a'r olwg arno oedd yn arwach na'i gyfeillion.
21 Edrychais, a'r corn hwn a wnaeth ryfel ar y saint, ac a fu drech na hwynt;
22 Hyd oni ddaeth yr Hen ddihenydd, a rhoddi barn i saint y Goruchaf, a dyfod o'r amser y meddiannai y saint y frenhiniaeth.
23 Fel hyn y dywedodd efe; Y pedwerydd bwystfil fydd y bedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear, yr hon a fydd amryw oddi wrth yr holl freniniaethau, ac a ddifa yr holl ddaear, ac a'i sathr hi, ac a'i dryllia.
24 A'r deg corn o'r frenhiniaeth hon fydd deg brenin, y rhai a gyfodant: ac un arall a gyfyd ar eu hôl hwynt, ac efe a amrywia oddi wrth y rhai cyntaf, ac a ddarostwng dri brenin.
25 Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf, ac a ddifa saint y Goruchaf, ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau: a hwy a roddir yn ei law ef, hyd amser ac amseroedd a rhan amser.
26 Yna yr eistedd y farn, a'i lywodraeth a ddygant, i'w difetha ac i'w distrywio hyd y diwedd.