25 Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf, ac a ddifa saint y Goruchaf, ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau: a hwy a roddir yn ei law ef, hyd amser ac amseroedd a rhan amser.
26 Yna yr eistedd y farn, a'i lywodraeth a ddygant, i'w difetha ac i'w distrywio hyd y diwedd.
27 A'r frenhiniaeth a'r llywodraeth, a mawredd y frenhiniaeth dan yr holl nefoedd, a roddir i bobl saint y Goruchaf, yr hwn y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, a phob llywodraeth a wasanaethant ac a ufuddhânt iddo.
28 Hyd yma y mae diwedd y peth. Fy meddyliau i Daniel a'm dychrynodd yn ddirfawr, a'm gwedd a newidiodd ynof; eithr mi a gedwais y peth yn fy nghalon.