8 Yr oeddwn yn ystyried y cyrn; ac wele, cyfododd corn bychan arall yn eu mysg hwy, a thynnwyd o'r gwraidd dri o'r cyrn cyntaf o'i flaen ef: ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw, a genau yn traethu mawrhydri.
9 Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gorseddfeydd, a'r Hen ddihenydd a eisteddodd: ei wisg oedd cyn wynned â'r eira, a gwallt ei ben fel gwlân pur; ei orseddfa yn fflam dân, a'i olwynion yn dân poeth.
10 Afon danllyd oedd yn rhedeg ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef: mil o filoedd a'i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y farn a eisteddodd, ac agorwyd y llyfrau.
11 Edrychais yna, o achos llais y geiriau mawrion a draethodd y corn; ie, edrychais hyd oni laddwyd y bwystfil, a difetha ei gorff ef, a'i roddi i'w losgi yn tân.
12 A'r rhan arall o'r bwystfilod, eu llywodraeth a dducpwyd ymaith; a rhoddwyd iddynt einioes dros ysbaid ac amser.
13 Mi a welwn mewn gweledigaethau nos, ac wele, megis Mab y dyn oedd yn dyfod gyda chymylau y nefoedd; ac at yr Hen ddihenydd y daeth, a hwy a'i dygasant ger ei fron ef.
14 Ac efe a roddes iddo lywodraeth, a gogoniant, a brenhiniaeth, fel y byddai i'r holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd ei wasanaethu ef: ei lywodraeth sydd lywodraeth dragwyddol, yr hon nid â ymaith, a'i frenhiniaeth ni ddifethir.