1 Yna y troesom, ac yr esgynasom ar hyd ffordd Basan; ac Og brenin Basan a ddaeth allan i'n cyfarfod ni, efe a'i holl bobl, i ryfel, i Edrei.
2 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Nac ofna ef: oblegid yn dy law di y rhoddaf ef, a'i holl bobl, a'i wlad; a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.
3 Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenin Basan, a'i holl bobl; ac ni a'i trawsom ef, hyd na adawyd iddo un yng ngweddill:
4 Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, fel nad oedd ddinas nas dygasom oddi arnynt; trigain dinas, holl wlad Argob, brenhiniaeth Og o fewn Basan.
5 Yr holl ddinasoedd hyn oedd gedyrn o furiau uchel, pyrth, a barrau, heblaw dinasoedd heb furiau lawer iawn.
6 A difrodasom hwynt, fel y gwnaethom i Sehon brenin Hesbon, gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr, y gwragedd, a'r plant.
7 Ond yr holl anifeiliaid ac ysbail y dinasoedd a ysglyfaethasom i ni ein hunain.
8 A ni a gymerasom yr amser hwnnw o law dau frenin yr Amoriaid y wlad o'r tu yma i'r Iorddonen, o afon Arnon hyd fynydd Hermon;
9 (Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion, a'r Amoriaid a'i galwant Senir;)
10 Holl ddinasoedd y gwastad, a holl Gilead, a holl Basan hyd Selcha ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan.
11 Oblegid Og brenin Basan yn unig a adawsid o weddill y cewri: wele, ei wely ef oedd wely haearn: onid yw hwnnw yn Rabbath meibion Ammon? naw cufydd oedd ei hyd, a phedwar cufydd ei led, wrth gufydd gŵr.
12 A'r wlad hon a berchenogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, a'i ddinasoedd ef a roddais i'r Reubeniaid ac i'r Gadiaid.
13 A'r gweddill o Gilead, a holl Basan, sef brenhiniaeth Og, a roddais i hanner llwyth Manasse; sef holl wlad Argob, a holl Basan, yr hon a elwid Gwlad y cewri.
14 Jair mab Manasse a gymerth holl wlad Argob, hyd fro Gesuri, a Maachathi; ac a'u galwodd hwynt ar ei enw ei hun, Basan Hafoth‐Jair, hyd y dydd hwn.
15 Ac i Machir y rhoddais i Gilead.
16 Ac i'r Reubeniaid, ac i'r Gadiaid, y rhoddais o Gilead hyd afon Arnon, hanner yr afon a'r terfyn, a hyd yr afon Jabboc, terfyn meibion Ammon:
17 Hefyd y rhos, a'r Iorddonen, a'r terfyn o Cinnereth, hyd fôr y rhos, sef y môr heli, dan Asdoth‐Pisga, tua'r dwyrain.
18 Gorchmynnais hefyd i chwi yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a roddes i chwi y wlad hon i'w meddiannu: ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob rhai pybyr ohonoch.
19 Yn unig eich gwragedd, a'ch plant, a'ch anifeiliaid, (gwn fod llawer o anifeiliaid i chwi,) a drigant yn eich dinasoedd a roddais i chwi.
20 Hyd pan wnelo'r Arglwydd i'ch brodyr orffwyso fel chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen: yna dychwelwch bob un i'w etifeddiaeth a roddais i chwi.
21 Gorchmynnais hefyd i Josua yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Dy lygaid di a welsant yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i'r ddau frenin hyn: felly y gwna'r Arglwydd i'r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned drosodd atynt.
22 Nac ofnwch hwynt: oblegid yr Arglwydd eich Duw, efe a ymladd drosoch chwi.
23 Ac erfyniais ar yr Arglwydd yr amser hwnnw, gan ddywedyd,
24 O Arglwydd Dduw, tydi a ddechreuaist ddangos i'th was dy fawredd, a'th law gadarn; oblegid pa Dduw sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ôl dy weithredoedd a'th nerthoedd di?
25 Gad i mi fyned drosodd, atolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen, a'r mynydd da hwnnw, a Libanus.
26 Ond yr Arglwydd a ddigiasai wrthyf o'ch plegid chwi, ac ni wrandawodd arnaf: ond dywedyd a wnaeth yr Arglwydd wrthyf, Digon yw hynny i ti; na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn.
27 Dos i fyny i ben Pisga, a dyrchafa dy lygaid tua'r gorllewin, a'r gogledd, a'r deau a'r dwyrain, ac edrych arni â'th lygaid: oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon.
28 Gorchymyn hefyd i Josua, a nertha a chadarnha ef: oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma, ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di.
29 Felly aros a wnaethom yn y dyffryn gyferbyn â Beth‐peor.