12 A'r wlad hon a berchenogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, a'i ddinasoedd ef a roddais i'r Reubeniaid ac i'r Gadiaid.
13 A'r gweddill o Gilead, a holl Basan, sef brenhiniaeth Og, a roddais i hanner llwyth Manasse; sef holl wlad Argob, a holl Basan, yr hon a elwid Gwlad y cewri.
14 Jair mab Manasse a gymerth holl wlad Argob, hyd fro Gesuri, a Maachathi; ac a'u galwodd hwynt ar ei enw ei hun, Basan Hafoth‐Jair, hyd y dydd hwn.
15 Ac i Machir y rhoddais i Gilead.
16 Ac i'r Reubeniaid, ac i'r Gadiaid, y rhoddais o Gilead hyd afon Arnon, hanner yr afon a'r terfyn, a hyd yr afon Jabboc, terfyn meibion Ammon:
17 Hefyd y rhos, a'r Iorddonen, a'r terfyn o Cinnereth, hyd fôr y rhos, sef y môr heli, dan Asdoth‐Pisga, tua'r dwyrain.
18 Gorchmynnais hefyd i chwi yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a roddes i chwi y wlad hon i'w meddiannu: ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob rhai pybyr ohonoch.