8 A ni a gymerasom yr amser hwnnw o law dau frenin yr Amoriaid y wlad o'r tu yma i'r Iorddonen, o afon Arnon hyd fynydd Hermon;
9 (Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion, a'r Amoriaid a'i galwant Senir;)
10 Holl ddinasoedd y gwastad, a holl Gilead, a holl Basan hyd Selcha ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan.
11 Oblegid Og brenin Basan yn unig a adawsid o weddill y cewri: wele, ei wely ef oedd wely haearn: onid yw hwnnw yn Rabbath meibion Ammon? naw cufydd oedd ei hyd, a phedwar cufydd ei led, wrth gufydd gŵr.
12 A'r wlad hon a berchenogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, a'i ddinasoedd ef a roddais i'r Reubeniaid ac i'r Gadiaid.
13 A'r gweddill o Gilead, a holl Basan, sef brenhiniaeth Og, a roddais i hanner llwyth Manasse; sef holl wlad Argob, a holl Basan, yr hon a elwid Gwlad y cewri.
14 Jair mab Manasse a gymerth holl wlad Argob, hyd fro Gesuri, a Maachathi; ac a'u galwodd hwynt ar ei enw ei hun, Basan Hafoth‐Jair, hyd y dydd hwn.