1 Na chenfigenna wrth wŷr annuwiol; ac na chwennych fod gyda hwynt:
2 Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a'u gwefusau a draetha flinder.
3 Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef:
4 A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd.