1 Nac ymffrostia o'r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.
2 Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan.
3 Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau.
4 Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen?
5 Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig.
6 Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus.
7 Y dyn llawn a fathra y dil mêl: ond i'r newynog pob peth chwerw sydd felys.
8 Gŵr yn ymdaith o'i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o'i nyth.
9 Olew ac arogl‐darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon.
10 Nac ymado â'th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell.
11 Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i'r neb a'm gwaradwyddo.
12 Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir.
13 Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chymer wystl ganddo dros y ddieithr.
14 Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo.
15 Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt.
16 Y mae yr hwn a'i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys.
17 Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill.
18 Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwyty o'i ffrwyth ef: a'r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd.
19 Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb: felly y mae calon dyn i ddyn.
20 Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn.
21 Fel y tawddlestr i'r arian, a'r ffwrnais i'r aur: felly y mae gŵr i'w glod.
22 Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef.
23 Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd.
24 Canys cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth?
25 Y gwair a flaendardda, a'r glaswellt a ymddengys, a llysiau y mynyddoedd a gesglir.
26 Yr ŵyn a'th ddillada, ac o'r geifr y cei werth tir.
27 Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i'th dylwyth, ac yn gynhaliaeth i'th lancesau.