1 Yna yr edrychais, ac wele yn y ffurfafen, yr hon oedd uwchben y ceriwbiaid, megis maen saffir, fel dull cyffelybrwydd gorseddfa, a welid arnynt hwy.
2 Ac efe a lefarodd wrth y gŵr a wisgasid â lliain, ac a ddywedodd, Dos i mewn rhwng yr olwynion, hyd dan y ceriwb, a llanw dy ddwylo o farwor tanllyd oddi rhwng y ceriwbiaid, a thaena ar y ddinas. Ac efe a aeth o flaen fy llygaid.
3 A'r ceriwbiaid oedd yn sefyll o du deau y tŷ, pan aeth y gŵr i mewn; a'r cwmwl a lanwodd y cyntedd nesaf i mewn.
4 Yna y cyfododd gogoniant yr Arglwydd oddi ar y ceriwb, ac a safodd oddi ar riniog y tŷ; a'r tŷ a lanwyd â'r cwmwl, a llanwyd y cyntedd o ddisgleirdeb gogoniant yr Arglwydd.
5 A sŵn adenydd y ceriwbiaid a glybuwyd hyd y cyntedd nesaf allan, fel sŵn Duw Hollalluog pan lefarai.