1 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
2 Ha fab dyn, gwna i Jerwsalem adnabod ei ffieidd‐dra,
3 A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Jerwsalem; Dy drigfa a'th enedigaeth sydd o wlad Canaan: dy dad oedd Amoriad, a'th fam yn Hittees.
4 Ac am dy enedigaeth, ar y dydd y'th anwyd ni thorrwyd dy fogail, ac mewn dwfr ni'th olchwyd i'th feddalhau: ni'th gyweiriwyd chwaith â halen, ac ni'th rwymwyd â rhwymyn.
5 Ni thosturiodd llygad wrthyt, i wneuthur i ti un o hyn, i dosturio wrthyt; ond ar wyneb y maes y'th daflwyd, i ffieiddio dy einioes, ar y dydd y'th aned.