12 Rhoddais hefyd dlws ar dy dalcen, a thlysau wrth dy glustiau, a choron hardd am dy ben.
13 Felly y'th harddwyd ag aur ac arian; a'th wisg oedd liain main, a sidan, a gwaith edau a nodwydd; peilliaid, a mêl, ac olew a fwyteit: teg hefyd odiaeth oeddit, a ffynnaist yn frenhiniaeth.
14 Aeth allan hefyd i ti enw ymysg y cenhedloedd, am dy degwch: canys cyflawn oedd gan fy harddwch yr hwn a osodaswn arnat, medd yr Arglwydd Dduw.
15 Ond ti a ymddiriedaist i'th degwch, a phuteiniaist oherwydd dy enw, a thywelltaist dy buteindra ar bob cyniweirydd; eiddo ef ydoedd.
16 Cymeraist hefyd o'th ddillad, a gwnaethost i ti uchelfeydd brithion, a phuteiniaist arnynt: y fath ni ddaw, ac ni bydd felly.
17 A chymeraist offer dy harddwch o'm haur ac o'm harian i, y rhai a roddaswn i ti, a gwnaethost i ti ddelwau gwŷr, a phuteiniaist gyda hwynt.
18 Cymeraist hefyd dy wisgoedd o waith edau a nodwydd, ac a'u gwisgaist hwynt: fy olew hefyd a'm harogl‐darth a roddaist o'u blaen hwynt.