20 Cymeraist hefyd dy feibion a'th ferched, y rhai a blantasit i mi; y rhai hyn a aberthaist iddynt i'w bwyta. Ai bychan hyn o'th buteindra di,
21 Ladd ohonot fy mhlant, a'u rhoddi hwynt i'w tynnu trwy y tân iddynt?
22 Ac yn dy holl ffieidd‐dra a'th buteindra ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit lom a noeth, a'th fod yn ymdrybaeddu yn dy waed.
23 A bu ar ôl dy holl ddrygioni, (Gwae, gwae i ti! medd yr Arglwydd Dduw,)
24 Adeiladu ohonot i ti uchelfa, a gwneuthur i ti uchelfa ym mhob heol.
25 Ym mhen pob ffordd yr adeiledaist dy uchelfa, a gwnaethost dy degwch yn ffiaidd, ac a ledaist dy draed i bob cyniweirydd, ac amlheaist dy buteindra.
26 Puteiniaist hefyd gyda meibion yr Aifft dy gymdogion, mawr eu cnawd; ac a amlheaist dy buteindra, i'm digio i.