39 Ie, rhoddaf di yn eu dwylo hwynt, a hwy a ddinistriant dy uchelfa, ac a fwriant i lawr dy uchel leoedd: diosgant di hefyd o'th ddillad, a chymerant ddodrefn dy harddwch, ac a'th adawant yn llom ac yn noeth.
40 Dygant hefyd dyrfa i'th erbyn, ac a'th labyddiant â meini, ac â'u cleddyfau y'th drywanant.
41 Llosgant hefyd dy dai â thân, a gwnânt arnat farnedigaethau yng ngolwg gwragedd lawer: a mi a wnaf i ti beidio â phuteinio, a hefyd ni roddi wobr mwy.
42 Felly y llonyddaf fy llid i'th erbyn, a symud fy eiddigedd oddi wrthyt; mi a lonyddaf hefyd, ac ni ddigiaf mwy.
43 Am na chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, ond anogaist fi i lid yn hyn oll; am hynny wele, myfi a roddaf dy ffordd ar dy ben, medd yr Arglwydd Dduw: fel na wnelych yr ysgelerder hyn am ben dy holl ffieidd‐dra.
44 Wele, pob diarhebydd a ddiarheba amdanat, gan ddywedyd, Fel y fam y mae y ferch.
45 Merch dy fam, yr hon a ffieiddiodd ei gŵr a'i meibion, ydwyt ti; a chwaer dy chwiorydd ydwyt, y rhai a ffieiddiasant eu gwŷr a'u meibion: eich mam oedd Hittees, a'ch tad yn Amoriad.