40 Dygant hefyd dyrfa i'th erbyn, ac a'th labyddiant â meini, ac â'u cleddyfau y'th drywanant.
41 Llosgant hefyd dy dai â thân, a gwnânt arnat farnedigaethau yng ngolwg gwragedd lawer: a mi a wnaf i ti beidio â phuteinio, a hefyd ni roddi wobr mwy.
42 Felly y llonyddaf fy llid i'th erbyn, a symud fy eiddigedd oddi wrthyt; mi a lonyddaf hefyd, ac ni ddigiaf mwy.
43 Am na chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, ond anogaist fi i lid yn hyn oll; am hynny wele, myfi a roddaf dy ffordd ar dy ben, medd yr Arglwydd Dduw: fel na wnelych yr ysgelerder hyn am ben dy holl ffieidd‐dra.
44 Wele, pob diarhebydd a ddiarheba amdanat, gan ddywedyd, Fel y fam y mae y ferch.
45 Merch dy fam, yr hon a ffieiddiodd ei gŵr a'i meibion, ydwyt ti; a chwaer dy chwiorydd ydwyt, y rhai a ffieiddiasant eu gwŷr a'u meibion: eich mam oedd Hittees, a'ch tad yn Amoriad.
46 A'th chwaer hynaf yw Samaria, hi a'i merched yn trigo ar dy law aswy a'th chwaer ieuangach na thi, yr hon sydd yn trigo ar dy law ddeau, yw Sodom a'i merched.