48 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni wnaeth Sodom dy chwaer, na hi na'i merched, fel y gwnaethost ti a'th ferched.
49 Wele, hyn oedd anwiredd dy chwaer Sodom, Balchder, digonedd bara, ac amlder o seguryd oedd ynddi ac yn ei merched, ac ni chryfhaodd hi law yr anghenog a'r tlawd.
50 A hwy a ymddyrchafasant, ac a wnaethant ffieidd‐dra o'm blaen i: am hynny y symudais hwynt, fel y gwelais yn dda.
51 Samaria hefyd ni phechodd fel hanner dy bechod di; ond tydi a amlheaist dy ffieidd‐dra yn fwy na hwynt, ac a gyfiawnheaist dy chwiorydd yn dy holl ffieidd‐dra a wnaethost.
52 Tithau yr hon a fernaist ar dy chwiorydd, dwg dy waradwydd am dy bechodau y rhai a wnaethost yn ffieiddiach na hwynt: cyfiawnach ydynt na thi: cywilyddia dithau, a dwg dy waradwydd, gan gyfiawnhau ohonot dy chwiorydd.
53 Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, caethiwed Sodom a'i merched, a chaethiwed Samaria a'i merched, yna y dychwelaf gaethiwed dy gaethion dithau a'th ferched yn eu canol hwynt:
54 Fel y dygech dy warth, ac y'th waradwydder, am yr hyn oll a wnaethost, gan gysuro ohonot hwynt.