53 Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, caethiwed Sodom a'i merched, a chaethiwed Samaria a'i merched, yna y dychwelaf gaethiwed dy gaethion dithau a'th ferched yn eu canol hwynt:
54 Fel y dygech dy warth, ac y'th waradwydder, am yr hyn oll a wnaethost, gan gysuro ohonot hwynt.
55 Pan ddychwelo dy chwiorydd, Sodom a'i merched, i'w hen gyflwr, a phan ddychwelo Samaria a'i merched i'w hen gyflwr, yna tithau a'th ferched a ddychwelwch i'ch hen gyflwr.
56 Canys nid oedd mo'r sôn am Sodom dy chwaer yn dy enau yn nydd dy falchder,
57 Cyn datguddio dy ddrygioni, megis yn amser dy waradwydd gan ferched Syria, a'r holl rai o'i hamgylch, merched y Philistiaid, y rhai a'th ddiystyrant o bob parth.
58 Dy ysgelerder, a'th ffieidd‐dra hefyd, ti a'u dygaist hwynt, medd yr Arglwydd.
59 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Felly y gwnaf â thi fel y gwnaethost, yr hon a ddiystyraist lw, i ddiddymu'r cyfamod.