60 Eto mi a gofiaf fy nghyfamod â thi yn nyddiau dy ieuenctid, ac a sicrhaf i ti gyfamod tragwyddol.
61 Yna y cofi dy ffyrdd, ac y cywilyddi, pan dderbyniech dy chwiorydd hŷn na thi, gyda'r rhai ieuangach na thi: a rhoddaf hwynt yn ferched i ti, a hynny nid wrth dy amod di.
62 A mi a sicrhaf fy nghyfamod â thi; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd:
63 Fel y cofiech di, ac y cywilyddiech, ac na byddo i ti mwy agoryd safn gan dy waradwydd, pan ddyhudder fi tuag atat, am yr hyn oll a wnaethost, medd yr Arglwydd Dduw.