8 Pan euthum heibio i ti, ac edrych arnat, wele dy amser yn amser serchowgrwydd: yna lledais fy adain drosot, a chuddiais dy noethni: tyngais hefyd i ti, ac euthum mewn cyfamod â thi, medd yr Arglwydd Dduw, a thi a aethost yn eiddof fi.
9 Yna mi a'th olchais â dwfr; ie, golchais dy waed oddi wrthyt, ac irais di ag olew.
10 Mi a'th wisgais hefyd â gwaith edau a nodwydd, rhoddais i ti hefyd esgidiau o groen daearfoch, a gwregysais di â lliain main, a gorchuddiais di â sidan.
11 Mi a'th herddais hefyd â harddwch, a rhoddais freichledau am dy ddwylo, a chadwyn am dy wddf.
12 Rhoddais hefyd dlws ar dy dalcen, a thlysau wrth dy glustiau, a choron hardd am dy ben.
13 Felly y'th harddwyd ag aur ac arian; a'th wisg oedd liain main, a sidan, a gwaith edau a nodwydd; peilliaid, a mêl, ac olew a fwyteit: teg hefyd odiaeth oeddit, a ffynnaist yn frenhiniaeth.
14 Aeth allan hefyd i ti enw ymysg y cenhedloedd, am dy degwch: canys cyflawn oedd gan fy harddwch yr hwn a osodaswn arnat, medd yr Arglwydd Dduw.