11 Ac yr oedd iddi wiail cryfion yn deyrnwiail llywodraethwyr, a'i huchder oedd uchel ymysg y tewfrig; fel y gwelid hi yn ei huchder yn amlder ei changhennau.
12 Ond hi a ddiwreiddiwyd mewn llidiowgrwydd, bwriwyd hi i'r llawr, a gwynt y dwyrain a wywodd ei ffrwyth hi: ei gwiail cryfion hi a dorrwyd ac a wywasant; tân a'u hysodd.
13 Ac yr awr hon hi a blannwyd mewn anialwch, mewn tir cras a sychedig.
14 A thân a aeth allan o wialen ei changhennau, ysodd ei ffrwyth hi, fel nad oedd ynddi wialen gref yn deyrnwialen i lywodraethu. Galarnad yw hwn, ac yn alarnad y bydd.