1 Yn y seithfed flwyddyn, o fewn y pumed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y daeth gwŷr o henuriaid Israel i ymgynghori â'r Arglwydd, ac a eisteddasant ger fy mron i.
2 Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
3 Ha fab dyn, llefara wrth henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai i ymofyn â mi yr ydych chwi yn dyfod? Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni fynnaf gennych ymofyn â mi.
4 A ferni di hwynt, mab dyn, a ferni di hwynt? gwna iddynt wybod ffieidd‐dra eu tadau:
5 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ar y dydd y dewisais Israel, ac y tyngais wrth had tŷ Jacob, ac y'm gwneuthum yn hysbys iddynt yn nhir yr Aifft, pan dyngais wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi;