11 A rhoddais iddynt fy neddfau, a hysbysais iddynt fy marnedigaethau, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a'u gwna hwynt.
12 Rhoddais hefyd iddynt fy Sabothau, i fod yn arwydd rhyngof fi a hwynt, a wybod mai myfi yw yr Arglwydd a'u sancteiddiodd hwynt.
13 Er hynny tŷ Israel a wrthryfelasant i'm herbyn yn yr anialwch: ni rodiasant yn fy neddfau, ond diystyrasant fy marnedigaethau, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a'u gwnelo hwynt; fy Sabothau hefyd a halogasant yn ddirfawr. Yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt yn yr anialwch, i'w difetha hwynt.
14 Eto gwneuthum er mwyn fy enw, fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd, y rhai y dygais hwynt allan yn eu gŵydd.
15 Ac eto mi a dyngaswn iddynt yn yr anialwch, na ddygwn hwynt i'r wlad a roddaswn iddynt, yn llifeirio o laeth a mêl; honno yw gogoniant yr holl wledydd:
16 Oherwydd iddynt ddiystyru fy marnedigaethau, ac na rodiasant yn fy neddfau, ond halogi fy Sabothau: canys eu calon oedd yn myned ar ôl eu heilunod.
17 Eto tosturiodd fy llygaid wrthynt rhag eu dinistrio, ac ni wneuthum ddiben amdanynt yn yr anialwch.