23 Hefyd mi a dyngaswn wrthynt yn yr anialwch, ar eu gwasgaru hwynt ymysg y cenhedloedd, a'u taenu hwynt ar hyd y gwledydd;
24 Oherwydd fy marnedigaethau ni wnaethent, ond fy neddfau a ddiystyrasent, fy Sabothau hefyd a halogasent, a'u llygaid oedd ar ôl eilunod eu tadau.
25 Minnau hefyd a roddais iddynt ddeddfau nid oeddynt dda, a barnedigaethau ni byddent fyw ynddynt:
26 Ac a'u halogais hwynt yn eu hoffrymau, wrth dynnu trwy dân bob peth a agoro y groth, fel y dinistriwn hwynt; fel y gwybyddent mai myfi yw yr Arglwydd.
27 Am hynny, fab dyn, llefara wrth dŷ Israel, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eto yn hyn y'm cablodd eich tadau, gan wneuthur ohonynt gamwedd i'm herbyn.
28 Canys dygais hwynt i'r tir a dyngaswn ar ei roddi iddynt, a gwelsant bob bryn uchel, a phob pren brigog; ac aberthasant yno eu hebyrth, ac yno y rhoddasant eu hoffrymau dicllonedd: yno hefyd y gosodasant eu harogl peraidd, ac yno y tywalltasant eu diod‐offrymau.
29 Yna y dywedais wrthynt, Beth yw yr uchelfa yr ydych chwi yn myned iddi? a Bama y galwyd ei henw hyd y dydd hwn.