29 Yna y dywedais wrthynt, Beth yw yr uchelfa yr ydych chwi yn myned iddi? a Bama y galwyd ei henw hyd y dydd hwn.
30 Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai ar ffordd eich tadau yr ymhalogwch chwi? ac a buteiniwch chwi ar ôl eu ffieidd‐dra hwynt?
31 Canys pan offrymoch eich offrymau, gan dynnu eich meibion trwy y tân, yr ymhalogwch wrth eich holl eilunod hyd heddiw: a fynnaf fi gennych ymofyn â mi, tŷ Israel? Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymofynnir â mi gennych.
32 Eich bwriad hefyd ni bydd ddim, yr hyn a ddywedwch, Byddwn fel y cenhedloedd, fel teuluoedd y gwledydd, i wasanaethu pren a maen.
33 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, yn ddiau â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig, y teyrnasaf arnoch.
34 A dygaf chwi allan ymysg y bobloedd, a chasglaf chwi o'r gwledydd y rhai y'ch gwasgarwyd ynddynt, â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig.
35 A dygaf chwi i anialwch y bobloedd, ac ymddadleuaf â chwi yno wyneb yn wyneb.