3 Ha fab dyn, llefara wrth henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai i ymofyn â mi yr ydych chwi yn dyfod? Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni fynnaf gennych ymofyn â mi.
4 A ferni di hwynt, mab dyn, a ferni di hwynt? gwna iddynt wybod ffieidd‐dra eu tadau:
5 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ar y dydd y dewisais Israel, ac y tyngais wrth had tŷ Jacob, ac y'm gwneuthum yn hysbys iddynt yn nhir yr Aifft, pan dyngais wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi;
6 Yn y dydd y tyngais wrthynt ar eu dwyn hwynt allan o dir yr Aifft, i wlad yr hon a ddarparaswn iddynt, yn llifeirio o laeth a mêl, yr hon yw gogoniant yr holl diroedd:
7 Yna y dywedais wrthynt, Bwriwch ymaith bob un ffieidd‐dra ei lygaid, ac nac ymhalogwch ag eilunod yr Aifft. Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
8 Er hynny gwrthryfelasant i'm herbyn, ac ni fynnent wrando arnaf: ni fwriasant ymaith ffieidd‐dra eu llygaid bob un, ac ni adawsant eilunod yr Aifft. Yna y dywedais, Tywalltaf arnynt fy llidiowgrwydd, a gyflawni fy nig arnynt yng nghanol gwlad yr Aifft.
9 Eto gwneuthum er mwyn fy enw, rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y rhai yr oeddynt hwy yn eu mysg; yng ngŵydd pa rai yr ymhysbysais iddynt hwy, wrth eu dwyn hwynt allan o dir yr Aifft.