33 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, yn ddiau â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig, y teyrnasaf arnoch.
34 A dygaf chwi allan ymysg y bobloedd, a chasglaf chwi o'r gwledydd y rhai y'ch gwasgarwyd ynddynt, â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig.
35 A dygaf chwi i anialwch y bobloedd, ac ymddadleuaf â chwi yno wyneb yn wyneb.
36 Fel yr ymddadleuais â'ch tadau yn anialwch tir yr Aifft, felly yr ymddadleuaf â chwithau, medd yr Arglwydd Dduw.
37 A gwnaf i chwi fyned dan y wialen, a dygaf chwi i rwym y cyfamod.
38 A charthaf ohonoch y rhai gwrthryfelgar, a'r rhai a droseddant i'm herbyn: dygaf hwynt o wlad eu hymdaith, ac i wlad Israel ni ddeuant: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
39 Chwithau, tŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ewch, gwasanaethwch bob un ei eilunod, ac ar ôl hyn hefyd, oni wrandewch arnaf fi: ond na halogwch mwy fy enw sanctaidd â'ch offrymau, ac â'ch eilunod.