43 Ac yno y cofiwch eich ffyrdd, a'ch holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasoch ynddynt; fel yr alaroch arnoch eich hun am yr holl ddrygioni a wnaethoch.
44 A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf â chwi er mwyn fy enw, nid yn ôl eich ffyrdd drygionus chwi, nac yn ôl eich gweithredoedd llygredig, O dŷ Israel, medd yr Arglwydd Dduw.
45 Daeth drachefn air yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
46 Gosod dy wyneb, fab dyn, tua'r deau, ie, difera eiriau tua'r deau, a phroffwyda yn erbyn coed maes y deau;
47 A dywed wrth goed y deau, Gwrando air yr Arglwydd: Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cynnau ynot ti dân, ac efe a ysa ynot ti bob pren ir, a phob pren sych: ffagl y fflam ni ddiffydd, a'r holl wynebau o'r deau hyd y gogledd a losgir ynddo.
48 A phob cnawd a welant mai myfi yr Arglwydd a'i cyneuais: nis diffoddir ef.
49 Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, y maent hwy yn dywedyd amdanaf, Onid damhegion y mae hwn yn eu traethu?