7 A bydd, pan ddywedant wrthyt, Am ba beth yr ydwyt yn ochain? yna ddywedyd ohonot, Am y chwedl newydd, am ei fod yn dyfod, fel y toddo pob calon, ac y llaeso y dwylo oll, ac y pallo pob ysbryd, a'r gliniau oll a ânt fel dwfr; wele efe yn dyfod, ac a fydd, medd yr Arglwydd Dduw.
8 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
9 Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dywed, Cleddyf, cleddyf a hogwyd, ac a loywyd.
10 Efe a hogwyd i ladd lladdfa, efe a loywyd fel y byddai ddisglair: a lawenychwn ni? y mae efe yn dirmygu gwialen fy mab, fel pob pren.
11 Ac efe a'i rhoddes i'w loywi, i'w ddal mewn llaw; y cleddyf hwn a hogwyd, ac a loywyd, i'w roddi yn llaw y lleiddiad.
12 Gwaedda ac uda, fab dyn; canys hwn fydd ar fy mhobl, hwn fydd yn erbyn holl dywysogion Israel; dychryn gan y cleddyf fydd ar fy mhobl: am hynny taro law ar forddwyd.
13 Canys profiad yw; a pheth os y cleddyf a ddiystyra y wialen? ni bydd efe mwy, medd yr Arglwydd Dduw.