10 Dywedodd hefyd wrthyf, Ha fab dyn, derbyn â'th galon, a chlyw â'th glustiau, fy holl eiriau a lefarwyf wrthyt.
11 Cerdda hefyd, a dos at y gaethglud, at feibion dy bobl, a llefara hefyd wrthynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio.
12 Yna yr ysbryd a'm cymerodd, a chlywn sŵn cynnwrf mawr o'm hôl, yn dywedyd, Bendigedig fyddo gogoniant yr Arglwydd o'i le.
13 A sŵn adenydd y pethau byw oedd yn cyffwrdd â'i gilydd, a sŵn yr olwynion ar eu cyfer hwynt, a sŵn cynnwrf mawr.
14 A'r ysbryd a'm cyfododd, ac a'm cymerodd ymaith, a mi a euthum yn chwerw yn angerdd fy ysbryd; ond llaw yr Arglwydd oedd gref arnaf.
15 A mi a ddeuthum i Tel‐abib, at y gaethglud oedd yn aros wrth afon Chebar, a mi a eisteddais lle yr oeddynt hwythau yn eistedd, ie, eisteddais yno saith niwrnod yn syn yn eu plith hwynt.
16 Ac ymhen y saith niwrnod y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,