13 A dywedodd yr Arglwydd, Felly y bwyty meibion Israel eu bara halogedig ymysg y cenhedloedd y rhai y gyrraf hwynt atynt.
14 Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, ni halogwyd fy enaid, ac ni fwyteais furgyn neu ysglyfaeth o'm hieuenctid hyd yr awr hon; ac ni ddaeth i'm safn gig ffiaidd.
15 Yntau a ddywedodd wrthyf, Wele, mi a roddais i ti fiswail gwartheg yn lle tom dyn, ac â hwynt y gwnei dy fara.
16 Dywedodd hefyd wrthyf, Mab dyn, wele fi yn torri ffon bara yn Jerwsalem, fel y bwytaont fara dan bwys, ac mewn gofal; ac yr yfont ddwfr dan fesur, ac mewn syndod.
17 Fel y byddo arnynt eisiau bara a dwfr, ac y synnont un gydag arall, ac y darfyddont yn eu hanwiredd.