7 A chyfeiria dy wyneb at warchaeedigaeth Jerwsalem, a'th fraich yn noeth; a thi a broffwydi yn ei herbyn hi.
8 Wele hefyd rhoddais rwymau arnat, fel na throech o ystlys i ystlys, nes gorffen ohonot ddyddiau dy warchaeedigaeth.
9 Cymer i ti hefyd wenith, a haidd, a ffa, a ffacbys, a milet, a chorbys, a dod hwynt mewn un llestr, a gwna hwynt i ti yn fara, dros rifedi y dyddiau y gorweddych ar dy ystlys: tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain y bwytei ef.
10 A'th fwyd a fwytei a fydd wrth bwys, ugain sicl yn y dydd: o amser i amser y bwytei ef.
11 Y dwfr hefyd a yfi wrth fesur; chweched ran hin a yfi, o amser i amser.
12 Ac fel teisen haidd y bwytei ef; ti a'i cresi hi hefyd wrth dail tom dyn, yn eu gŵydd hwynt.
13 A dywedodd yr Arglwydd, Felly y bwyty meibion Israel eu bara halogedig ymysg y cenhedloedd y rhai y gyrraf hwynt atynt.