23 A dysgant i'm pobl ragor rhwng y sanctaidd a'r halogedig, a gwnânt iddynt wybod gwahan rhwng aflan a glân.
24 Ac mewn ymrafael hwy a safant mewn barn, ac a farnant yn ôl fy marnedigaethau i: cadwant hefyd fy nghyfreithiau a'm deddfau yn fy holl uchel wyliau; a sancteiddiant fy Sabothau.
25 Ni ddeuant chwaith at ddyn marw i ymhalogi: eithr wrth dad, ac wrth fam, ac wrth fab, ac wrth ferch, wrth frawd, ac wrth chwaer yr hon ni bu eiddo gŵr, y gallant ymhalogi.
26 Ac wedi ei buredigaeth y cyfrifir iddo saith niwrnod.
27 A'r dydd yr elo i'r cysegr, o fewn y cyntedd nesaf i mewn, i weini yn y cysegr, offrymed ei bech‐aberth, medd yr Arglwydd Dduw.
28 A bydd yn etifeddiaeth iddynt hwy; myfi yw eu hetifeddiaeth hwy. Ac na roddwch berchenogaeth iddynt hwy yn Israel; myfi yw eu perchenogaeth hwy.
29 Y bwyd‐offrwm, a'r pech‐aberth, a'r aberth dros gamwedd, a fwytânt hwy; a phob peth cysegredig yn Israel fydd eiddynt hwy.